NanROBERTSROBERTS - Nan. Dymuna deulur diweddar Nan Roberts, Caerdydd (Dinbych gynt), ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth. Dymunant ddiolch yn arbennig i Catrin am ei harweiniad yn y gwasanaethau yn Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, ac Amlosgfa Bangor a hefyd i'r Ficer, Y Parchedig Dyfrig Lloyd, y Wardeniad a chyfeillion am eu cymorth ynglyn a'r angladd. Gwerthfawrogir y gefnogaeth a gafodd Nan gan Gill, rheolwr lleol Wales & the West, gan ofalwyr Home Instead, meddygon Meddygfa Radyr a staff Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Cydnabyddir gyda diolch garedigrwydd ac effeithiolrwydd Matthew Sims o gwmni ymgymerwyr Green Willow. Derbyniwyd gyda gwerthfawrogiad gyfraniadau at elusen Epilepsi Cymru.
Keep me informed of updates